Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-24-13 – Papur 3


 

Adran 1: Cefndir

 

1         Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yw’r gymdeithas hynaf ond dwy yn y byd yn dilyn ei sefydlu ym 1876, ac mae’r Gymdeithas wedi llywodraethu pêl-droed yng Nghymru yn barhaus ers y flwyddyn honno. Mae CBDC yn aelod o FIFA ac UEFA ac yn un o’r pum cymdeithas sy’n rhan o’r Bwrdd Pêl-droed Rhyngwladol (IFAB), sef ceidwaid ‘Cyfreithiau’r Gêm.’

 

2         Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (YBDC) gan CBDC ym 1996 ac mae ei amcanion yn cynnwys: (1) annog mwy o bobl i chwarae pêl-droed; (2) adnabod a datblygu chwaraewyr ifanc talentog i gefnogi llwyddiant timau rhyngwladol Cymru yn y dyfodol ar draws pob oedran; a (3) datblygu mwy o hyfforddwyr a hyfforddwyr sydd â gwell cymwysterau.

 

3         Mae cymryd rhan, ac yn fwy penodol cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol mewn pêl-droed, yn ffocws i CBDC ac YBDC.

 

Adran 2: I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn cyflawni’r nodau a amlinellwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, yn y cynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol ac yn Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru o ran lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon.

 

4         Tra ein bod yn cydnabod ein cyfraniad at gynyddu lefelau cymryd rhan mewn pêl-droed a chynyddu nifer yr hyfforddwyr chwaraeon a’r athletwyr elît yng Nghymru, nid oes gan CBDC ac YBDC unrhyw dystiolaeth gadarn i allu gwneud sylwadau ar p’un a yw Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn cyflawni’r amcanion a amlinellir yn y dogfennau a grybwyllwyd yn flaenorol.  Mae amcanion uchelgeisiol wedi cael eu pennu ac rydym yn hyderu bod mesurau ar waith i fonitro cynnydd.

 

5         Mewn perthynas ag annog lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon, rydym o’r farn bod gofyn i Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion hyn:

 

                     i.            Cynyddu nifer yr oriau’r wythnos y mae plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn ysgolion.

                   ii.            Dewis mwy amrywiol a modern o chwaraeon mewn ysgolion er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb gan ferched a lleihau’r gostyngiad mewn lefelau cymryd rhan wrth i ddisgyblion gyrraedd eu harddegau.

                  iii.            Meithrin gwell cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau cymunedol.

                 iv.            Datblygu seilwaith o feysydd 3G.

 

Adran 3: I ba raddau y mae setiau data ac ystadegau ar gael ar gyfer mesur lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig rhai a gaiff eu dadfgyfuno yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol.

 

6         Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru yn 2011 yn nodi bod mwy o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn pêl-droed na’r un math arall o chwaraeon tîm yng Nghymru. Mae’r tabl isod yn nodi’r ffigurau ar gyfer gwahanol gyfraniadau:

 

Grŵp oedran

Cymryd rhan yn allgyrsiol

Cymryd rhan mewn clwb

Cymryd rhan anffurfiol

Blynyddoedd 3-6 (7-11 oed)

47,060

44,516

61,051

Blynyddoedd 7-11 (11-16 oed)

38,162

39,896

57,242

 

7         Mae’r Arolwg ar Oedolion Egnïol a gynhaliwyd yn 2008/9 yn nodi bod mwy o oedolion (pobl 15 oed a hŷn) yn cymryd rhan mewn pêl-droed na’r un math arall o chwaraeon tîm hefyd, gydag oddeutu 320,837 yn cymryd rhan a 129,330 yn aelodau o glybiau pêl-droed.

 

8         Mae argaeledd setiau data ac ystadegau i fesur lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon yn bwysig i CBDC ac YBDC gan fydd mynediad at ystadegau cadarn yn helpu’r ddau sefydliad i gynllunio’n strategol drwy sicrhau bod amser ac adnoddau yn cael eu buddsoddi’n briodol.

 

9         Ar hyn o bryd, mae’r ddau sefydliad yn defnyddio ystadegau sy’n bodoli eisoes i nodi tueddiadau. Er enghraifft, mae data cyfredol yn awgrymu bod gostyngiad mewn lefelau cymryd rhan mewn ysgolion uwchradd ac mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i sicrhau bod y gêm yn apelio at bobl ifanc. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod gan bêl-droed y potensial i dyfu; mae mwy o bobl eisiau cymryd rhan o’i gymharu â chwaraeon eraill.

 

10     Yn anffodus, tra bod data Chwaraeon Cymru yn cynnig sail ar gyfer datblygu darlun o dueddiadau cyfredol yng Nghymru, nid yw’n cynnig sail digon cadarn i roi camau gweithredu strategol ar waith ar lefel leol.

 

11     Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, er enghraifft, yn ddibynnol ar gefnogaeth gan ysgolion ac o’r herwydd, mae’r adborth yn amrywio o un ardal i’r llall.  Mae hyn yn ei dro yn arwain at fias gan fod adborth o rai ardaloedd yn uwch nag eraill.  Yn naturiol mae hyn yn destun pryder o ystyried natur amrywiol Cymru (e.e. gwledig/trefol; mynediad/diffyg mynediad at gyfleusterau ac ati). Fodd bynnag, dylid nodi bod cynrychiolwyr Chwaraeon Cymru yn ymwybodol o’r mater hwn ac mae’n galonogol gweld bod mwy o bobl wedi ymateb i’r arolwg cyfredol o’i gymharu â’r arolwg diwethaf.  Mae trafodaeth gyda’r rheiny sy’n rhan o’r maes hefyd yn codi pryderon ynghylch y dulliau samplu a ddefnyddir ar gyfer yr Arolwg ar Oedolion Egnïol.

 

12     Er bod CBDC ac YBDC yn gwerthfawrogi’r ymdrechion i annog mwy o ymateb gan ysgolion drwy dynnu sylw at bwysigrwydd y maes hwn, credwn y dylid gwneud mwy o ymdrech i sicrhau bod cwestiynau wedi’u teilwra’n briodol i’r gynulleidfa berthnasol.  Mae’n annhebyg bod plant saith mlwydd oed yn gallu deall cwestiynau ar gefndir ethnig neu ‘a ydynt yn ystyried bod ganddynt anabledd neu nam.’  Er bod materion o’r fath yn bwysig, gellir cwestiynu pa mor gywir yw’r data hwn. Mae hyd yr arolwg hefyd yn bryder gyda rhai plant yn treulio 50 munud yn ei lenwi yn ystod y peilot.

 

13     Dylid nodi bod CBDC a Chyrff Llywodraethu eraill wedi dechrau gweithio gyda Chwaraeon Cymru i adolygu’r cwestiynau a gynhwysir yn yr arolygon hyn.  Mae’n ymddangos bod anghenion cynyddol gwahanol sefydliadau yn gorbwyso pwysigrwydd darparu holiadur sy’n hawdd ei ddefnyddio. Yn wir, mae’n ymddangos bod peth amharodrwydd i symud oddi wrth yr hyn sydd wedi bod yn cael ei wneud dros y blynyddoedd.

 

14     Mae CBDC ac YBDC yn elwa ar berthynas weithio agos gydag aelodau o Dîm Ymchwil Chwaraeon Cymru.  Mae hyn yn bwysig a dylid meddwl ymhellach am ymgysylltu â Chyrff Llywodraethu eraill.  Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

15     Ein gobaith yw gwella’r lefel o wybodaeth a gaiff ei chasglu drwy’r Arolygon ar Chwaraeon Ysgol ac Oedolion Egnïol.  Tra bod yr Arolwg ar Oedolion Egnïol yn darparu dadansoddiad ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan yn y gêm dan do ac yn yr awyr agored, byddai dadansoddiad pellach o fformatau’r gêm mewn gwahanol awdurdodau lleol yn ein galluogi i gymryd camau strategol. Er enghraifft, mae gennym ddiddordeb mewn adnabod a dysgu mwy am y rheiny sy’n chwarae 5-bob-ochr, ffwtsal, 7-bob-ochr ac 11-bob-ochr.

 

16     Mater arall i’w ystyried yw bod yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol a’r Arolwg ar Oedolion Egnïol yn cael eu cynnal tua dwy flynedd ar wahân. Er ein bod ni’n deall cymaint o waith sy’n gysylltiedig â’r arolygon hyn, nid oes modd i ni bennu faint o bobl sy’n cymryd rhan mewn pêl-droed (a chwaraeon eraill) mewn blwyddyn benodol.

 

Adran 4: Y cyfleoedd a’r rhwystrau y mae gwahanol grwpiau o bobl yn eu hwynebu o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol.

 

17     Er bod tystiolaeth yn awgrymu bod y rheiny sy’n cymryd rhan mewn pêl-droed yn perthyn i wahanol raddau cymdeithasol, caiff ei gydnabod bod rhai grwpiau – gan gynnwys menywod a grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) – wedi profi rhwystrau yn y gorffennol. O ganlyniad, mae nifer o fentrau wedi cael eu sefydlu i sicrhau bod pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd yn cael cyfle i chwarae’r gêm, a hynny gydag adnoddau cyfyngedig. Mae’r enghreifftiau canlynol yn cynnig cipolwg o’r datblygiadau/cynnydd sydd wedi digwydd yn y maes hwn:

 

                    I.            Cyfres o gyrsiau hyfforddi pêl-droed wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer mamau.

                  II.            Ym mis Awst, bydd Cymru yn cynnal Pencampwriaeth Merched Dan 19 UEFA yn y Gorllewin.

                III.            Bydd Carfan Ffwtsal Byddar Cymru yn hyfforddi am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.

                IV.            Yn 2012, roedd 3.4% o’r chwaraewyr cofrestredig yng Nghymru (11 oed a hŷn) o gefndir BME.  Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu o 2.3% yn 2010.

                  V.            Bu i chwe thîm BME Hŷn newydd, yn cynnwys 90 o chwaraewyr, gofrestru ar gyfer Cynghrair Bêl-droed Ffoaduriaid Cymru yn ddiweddar.

 

18     Un her allweddol y mae pêl-droed yn ei wynebu wrth symud ymlaen yw’r angen i ddarparu lleoliadau digonol ac addas i gynnal a chynyddu lefelau cymryd rhan.  Mae’r cynnydd yng nghostau llogi cae neu faes chwarae – cynnydd o 193% mewn ffioedd ar gyfer meysydd ac ystafelloedd newid sy’n eiddo i Gyngor Caerdydd yn ôl adroddiad gan y BBC – yn debygol o gael effaith negyddol ar lefelau cymryd rhan.

 

19     Mae’r angen am well cyfleusterau yn rhwystr sylweddol. Mae CBDC wrthi’n buddsoddi €3 miliwn mewn meysydd 3G ar draws Cymru. Byddai buddsoddiad pellach gan sefydliadau eraill –Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn benodol – heb os yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu’r gwaith gyda grwpiau lleiafrifol a chynyddu lefelau cymryd rhan.

 

Adran 5: Beth yw’r cysylltiadau rhwng rhaglenni ar gyfer datblygu chwaraeon yng Nghymru a mentrau eraill Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol?

 

20     Cafodd cam cyntaf Parc y Ddraig (Canolfan Ddatblygu Genedlaethol CBDC), sydd wedi’i lleoli ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, ei ariannu gyda buddsoddiad gan UEFA, CBDC, Chwaraeon Cymru a rhaglenni FIFA.  Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn buddsoddi mewn pêl-droed ar lawr gwlad drwy YBDC.

 

21     Er gwaethaf ein perthynas weithio agos gyda Chwaraeon Cymru, mae CBDC ac YBDC yn awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau perthynas weithio agosach.

 

22     Mae cyfleoedd i ddatblygu hyd yn oed ymhellach a sicrhau gwell cysylltiadau rhwng mentrau datblygu cymunedol a chwaraeon.  Er enghraifft, mae Prosiect FFWTSAL yn fenter a sefydlwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon (FAI) ac YBDC a chaiff ei gyllido drwy Raglen Ryngranbarthol IVA Cymru Iwerddon 2007-2013 o dan thema Adfywio Cymunedau'n Gynaliadwy. Mae’r FAI, YBDC a darparwyr addysg lleol wedi uno i ddarparu cyfle unigryw i bobl sy’n ddi-waith a thu allan i addysg ffurfiol gymryd rhan mewn prosiect arloesol i’w helpu yn ôl i mewn i’r gweithlu.  Nod cyffredinol y prosiect yw darparu addysg a chyfleoedd gwaith i bobl ddi-waith ac i hybu a chyfrannu at adfywio cymunedau drwy gyflogaeth a gwirfoddoli.

 

23     Mae Prosiect FFWTSAL yn enghraifft o sut y gellir defnyddio pêl-droed (a chwaraeon eraill) fel arf cymdeithasol i fynd i’r afael â nodau strategol eraill Llywodraeth Cymru.  Mae pêl-droed eisoes yn gweithio gyda nifer o grwpiau anodd eu cyrraedd ac mae’n arf profedig y gellir ei ddefnyddio i ymgysylltu â phobl o wahanol gefndiroedd.

 

Adran 6: Effaith y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cwpan Ryder a digwyddiadau proffil uchel a llwyddiannau eraill ym maes chwaraeon yng Nghymru ar lefelau cyfranogi yng Nghymru.

 

24     Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y digwyddiadau mawr uchod wedi cael unrhyw effaith ar lefelau cymryd rhan mewn pêl-droed.  Mae’n fwy tebygol y gallai digwyddiadau pêl-droed domestig a chenedlaethol eraill effeithio ar lefelau cymryd rhan, er mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod angen monitro effaith yn fwy effeithiol.